Codi safonau gyda'n gilydd

Safonau a gwerthoedd addysg yng Nghymru

Araith gan Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.

Introduction

Diolch yn fawr Dylan.

Llawer o ddiolch i’r Athrofa am gynnal y digwyddiad hwn fel rhan o raglen eich seminar.

Rydych chi’n gwneud cyfraniad aruthrol i lwyddiant addysg yng Nghymru, heddiw ac yfory.

Nid yn unig trwy hyfforddi ein hathrawon ac arweinwyr y dyfodol, ond trwy annog trafodaethau ar sut i symud ymlaen gyda’n gilydd. Mae angen llawer mwy o hynny.

Mae’n braf bod yma yn Tramshed Tech.

Mae’r weledigaeth o hyrwyddo cydweithredu â’r diwydiannau technolegol a chreadigol – cefnogi cymuned sy’n cydweithio – hefyd yn rhywbeth yr hoffwn ei weld yn ffynnu ym myd addysg.

Y Cyd-destun

Fy mhrif nod a’m sbardun innau – a’r Llywodraeth – wrth ddiwygio addysg yw codi safonau i bawb a lleihau’r bwlch cyrhaeddiad.

Dydyn ni ddim am ddiystyru neb nac unlle.

Disgwyliadau uchel – gyda’r cymorth iawn ar yr adeg iawn – i bob myfyriwr, ysgol a lleoliad.

Ond dyw hynny ddim yn golygu nad ydyn ni’n cydnabod gwahaniaethau.

Gyda system addysg gwasanaeth cyhoeddus ffyniannus a chyfartal, rhaid i ni gydweithio a chydweithredu fwyfwy.

Cydweithredu llwyddiannus sy’n cyflawni dros ddysgwyr, athrawon a’r sector yw un o’r pethau sy’n dod â phrofiadau, cymunedau a chenadaethau gwahanol at ei gilydd.

Felly, heno, hoffwn rannu rhywfaint o syniadau ar y Ffordd Gymreig.

Sut rydyn ni’n paru cyfartaledd a rhagoriaeth, o fewn ymrwymiad newydd i addysg gwasanaeth cyhoeddus.

  • Sut mae’n rhaid i ni weithio’n galetach er mwyn peidio â gadael neb ar ôl.
  • Sut gallwn ni barhau i hyrwyddo’r ffyrdd gwahanol o drefnu a gwella ysgolion.
  • Sut mae’n rhaid i ni, ledled ein system, gydnabod gwahaniaethau fel rhywbeth cadarnhaol - gyda chyfraniadau cyfartal ond gwahanol at y genhadaeth genedlaethol.

Diwylliant

Yn ôl Andres Schleicher o’r OECD “dylai llwyddiannau myfyrwyr adlewyrchu eu galluoedd a’u hymdrechion, nid eu hamgylchiadau personol.”

A gwir bob gair.

Dyna pam y gwnes i, mewn gwrthblaid, weithio gyda’r Llywodraeth i sicrhau’r Grant Datblygu Disgyblion.

A dyna pam fy mod i nawr, mewn Llywodraeth, wedi ehangu ac ymestyn hynny.

Ond mae’n golygu llawer mwy na £93 miliwn ychwanegol y flwyddyn - £400 miliwn ers 2012 – er mod hanfodol yw hynny.

Mae’n ymwneud â diwylliant.

Yn Estonia a Japan, mae’r 20% o’r myfyrwyr mwyaf difreintiedig yn gwneud cystal â’r myfyriwr cyfartalog yng ngweddill yr OECD.

Ac maen nhw’n cyflawni’n well na’r myfyrwyr mwyaf breintiedig mewn 20 o economïau eraill yr OECD.

Mae’r ateb yn syml meddai Andres. Mae’n dweud:

“They set high and universal expectations for all students.

They keep an unwavering focus on great teaching.

They target resources on struggling students and schools.

And they stick with coherent, long-term strategies.”

Bydd y rhai ohonoch sy’n gyfarwydd â’n cynllun gweithredu cenedlaethol, gobeithio, yn sylwi bod yr amcanion hyn yn llywio diwygiadau yng Nghymru hefyd.

Penderfyniadau Anodd A Gadael Neb Ar ÔL

Mae canolbwyntio’n ddi-ildio ar safonau, addysgu gwych a disgwyliadau uchel i bawb yn golygu bod angen gwneud rhai penderfyniadau anodd.

Ac rydyn ni wedi gwneud digon o rheiny’n ddiweddar.

Camau cywir sy’n herio enghreifftiau o ddisgwyliadau is a diystyru cohortau o fyfyrwyr.

Rydyn ni wedi symud oddi wrth yr arfer o gofrestru’n gynnar ar gyfer arholiadau TGAU, a olygai bod llawer o fyfyrwyr yn bancio gradd C lle gallant fod wedi cyflawni llawer mwy.

Rydyn ni wedi symud oddi wrth gohortau cyfan – yn enwedig rhai o gefndiroedd mwy difreintiedig – yn astudio ar gyfer BTEC Gwyddoniaeth, i sefyllfa bellach lle mae bron i 70% o ysgolion yn cofrestru dysgwyr ar gyfer y tri phwnc gwyddoniaeth TGAU. Ydy, mae hyn wedi cael effaith ar y canlyniadau diweddaraf – ond dyma’r peth iawn i’w wneud hefyd.

Rydyn ni wedi mynd i’r afael â’r amryfusedd o fethu ag ymestyn rhai o’n disgyblion mwy galluog - o ba bynnag gefndir - trwy fuddsoddi £3 miliwn mewn rhaglen newydd, gan adeiladu ar rwydwaith Seren.

Ys dywed yr addysgwraig ac awdur Cleverlands, Lucy Crehan:

“The most successful education systems around the world are those that aim to hold all children to higher standards.”

Trwy ein gwaith gyda’r OECD, ac eraill ledled yr Atlantic Rim Collaboratory, rydyn ni’n rhan o’r brif ffrwd ryngwladol.

Lloegr yw’r eithriad: gyda’i hobsesiwn ag ysgolion gramadeg er enghraifft.

Yn syml, maen nhw’n gwneud penderfyniad penodol i ddiystyru cyfran sylweddol o ddisgyblion.

Yn wir, mae Lucy Crehan yn mynd ymhellach gan ddweud mai sail resymegol ysgol gramadeg yw:

“Offer a refuge for those poor children that do have academic potential, by letting them leave the others behind.”

Efallai bod rhai’n dweud ‘fel ’na mae bywyd’ – bod angen i ni ddewis enillwyr a chollwyr yn 11 oed.

Nid dyna’r diwylliant y byddaf yn caniatáu iddi fagu gwreiddiau yng Nghymru.

Trwy gredu mewn system gyfun annetholus, dw i’n cyfaddef ein bod ni’n gosod her i ni’n hunain.

Ond mae’n her gydag argyhoeddiad moesol.

Fel gwlad fach, allwn ni ddim gadael unrhyw un ar ôl.

Allwn ni ddim fforddio gadael neb ar ôl.

Ac mae bod yn fach yn golygu y dylem, ac y gallem, fynd i’r afael â hyn.

Crynodeb Economi Cymysg

Wrth osod disgwyliadau uchel ar bawb, rydyn ni’n cydnabod bod dysgwyr a darparwyr angen lefelau gwahanol o gymorth.

Efallai nad ydyn ni’n treulio’r rhan fwyaf o’n hamser a’n hegni yn trafod strwythurau, fel sy’n digwydd dros y ffin – ond dyw hynny ddim yn golygu ein bod ni’n pennu’r un ateb i bawb. I’r gwrthwyneb yn wir.

Mae system gyfun flaengar yn golygu system sy’n addas i bawb ac anghenion a gofynion pob dysgwr ar eu taith addysg.

Rydyn ni’n cydnabod y bydd gwahaniaethau lleol a rhanbarthol.

Ac o fewn system gysylltiedig, gydweithredol sy’n hunanwella, cryfder nid gwendid yw hynny.

Ysgolion cyfrwng Cymraeg, cyfrwng Saesneg a dwyieithog.

Ysgolion cyfun mawr trefol ac ysgolion ffederal gwledig.

Chweched dosbarth mewn ysgolion, colegau addysg bellach a darparwyr hyfforddiant;

Nifer cynyddol o ysgolion gydol oes; a

Prifysgolion ymchwil ddwys a sefydliadau mwy lleol sy’n ymgysylltu â chyflogwyr.

Chweched Dosbarth A Tercw

Cyn symud ymlaen, hoffwn ganolbwyntio am eiliad ar y chweched dosbarth a’n hymgynghoriad technegol ar addysg  a hyfforddiant ôl-orfodol a gaiff ei gyhoeddi wythnos nesaf.

Gallaf gadarnhau ein bod ni’n cynnig bod y ddarpariaeth chweched dosbarth yn rhan o gylch gwaith ein comisiwn addysg ac ymchwil trydyddol newydd.

Fel rhywun sy’n credu mewn economi gymysg o ddarpariaeth ôl-16, gadewch i mi fod yn glir – dw i yn, wastad wedi, ac mi fydda i’n gefnogol o’r chweched dosbarth.

Fodd bynnag, rydyn ni angen mwy o gydlynu, dull strategol cenedlaethol a rhanbarthol cryfach i wella canlyniadau i ddysgwyr.

Trwy sicrhau bod y ddarpariaeth chweched dosbarth yn rhan o gylch gwaith y Comisiwn, mae hynny’n galluogi golwg strategol o addysg drydyddol, gyda phwyslais ar hyrwyddo a hwyluso cydweithredu rhwng darparwyr a lleihau achosion o ailadrodd a chystadleuaeth.

Byddwn yn disgwyl i’r Comisiwn weithio gydag awdurdodau lleol a’r consortia rhanbarthol ac eraill i wella ansawdd y ddarpariaeth a’r canlyniadau i ddysgwyr chweched dosbarth ac Addysg Bellach.

Mae’n gam nesaf naturiol yn ein hymrwymiad i wella canlyniadau i ddysgwyr, sicrhau’r un parch i bawb a thrin pawb yn yr un ffordd o ran sut rydyn ni’n mesur perfformiad ôl-16.

Wrth ddod i’m swydd a gweld canlyniadau haf 2016, roeddwn i’n poeni nad oeddem ni – fel system – wedi talu digon o sylw i berfformiad Safon Uwch.

Rydyn ni wedi bod yn gweithio’n galed gyda’r sector i gyflwyno set newydd o fesurau cyson.

Bydd popeth mewn lle erbyn dechrau’r flwyddyn nesaf ac yn rhoi darlun llawer mwy cyflawn i ni, dysgwyr, y sector a chyflogwyr, gyda phwyslais ar:

  • Cyflawniad y dysgwr: mesur gwaith cwblhau a chyflawni
  • Ychwanegu gwerth: hynt a chynnydd y dysgwr o gymharu â dysgwyr â mannau cychwyn tebyg;
  • Cyrchfannau: beth a ble mae’r dysgwr yn symud ymlaen ato.

A bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi ar lefel genedlaethol a lefel darparwr, er mwyn helpu i lywio dewis y dysgwr.

Bydd hyn yn sicrhau cysondeb a chydlyniant, wrth gydnabod cynnydd a chyflawniad ar draws lleoliadau sydd â chenadaethau, ardaloedd a chyd-destun gwahanol.

Mae’n hollbwysig bod dysgwyr yn cael y cyngor, y wybodaeth a’r cymorth sydd eu hangen arnyn nhw i wneud y dewisiadau ôl-16 cywir.

Dydyn ni ddim yn gwneud unrhyw ffafr â’n dysgwyr trwy eu hannog nhw i astudio cyrsiau lle nad oes ganddyn nhw fawr o obaith o lwyddo, os o gwbl.

Yn enwedig, dw i ddim eisiau gweld sefyllfa lle mae cyrsiau Safon Uwch yn ddewis diofyn yn unig, lle mae llawer o ddysgwyr yn gadael ar ddiwedd eu hastudiaethau UG, a mwy fyth yn gadael heb gyflawni tair gradd dda.

Mesurau Perfformiad

Yn yr un modd, hoffwn rannu ambell syniad newydd ar sut rydyn ni’n cydnabod dull economi gymysg well o fewn system gwasanaeth cyhoeddus gwych a chyfartal.

Mae ein taith tuag at gwricwlwm newydd yn gosod heriau a chyfleoedd newydd i athrawon.

Mwy o annibyniaeth;

Cymysgedd gwell o sgiliau a gwybodaeth am bynciau;

Asesiad sy’n llywio gwelliannau i bob dysgwr;

Hunanwerthusiad go iawn a thrylwyr;

A chyflwyno’r sgiliau meddwl beirniadol sydd eu hangen ar ein heconomi ac ar gymdeithas.

Rydym angen system atebolrwydd a fydd yn mesur hyn yn well, yn canolbwyntio ar ganlyniadau a’r gwerth ychwanegol a gyflwynir gan bob ysgol.

Mae ein system bresennol yn aml yn cuddio faint o blant sy’n cael eu gadael ar ôl.

  • Pwyslais ar y ffin C/D sy’n anwybyddu popeth arall.
  • Dim cymhelliant i ymestyn y rhai hynny a allai gyflawni llawer mwy.
  • Sut mae cynnydd a pherfformiad disgyblion o gefndiroedd difreintiedig o’r golwg yn aml.
  • A goblygiadau anfwriadol dewisiadau pwnc a lleihau’r cwricwlwm.

Ar ôl profi’r syniadau newydd eisoes gyda’r proffesiwn, a gydag arbenigwyr rhyngwladol, byddwn yn cyhoeddi mesurau newydd yn fuan a fydd yn mynd i’r afael â’r pwyntiau hyn, gan sicrhau bod pob dysgwr yn cyfri.

A dw i’n rhagweld – a ddim yn ymddiheuro am hyn – y byddwn ni’n gweld ambell syrpreis wrth symud ymlaen.

Bydd llawer o’n hysgolion sy’n perfformio orau yn dal i fod yn sefydliadau disglair.

Mewn rhai o’r ysgolion hynny, dw i’n gwybod bod disgyblion sy’n cael prydau ysgol am ddim yn perfformio’n well na’u cyfoedion, gyda 70% a mwy yn cael o leiaf 5 TGAU da.

Ond mewn ysgolion eraill – sy’n cael eu hystyried yn ysgolion da iawn – rydyn ni’n gweld bwlch cyrhaeddiad o dros 50% yn anffodus.

Dyw hynny ddim digon da, a bydd ein mesurau newydd yn sicrhau nad yw hyn o’r golwg mwyach.

Bydd hefyd yn ffordd well o ddangos bod llawer o’r ysgolion â  chyfran uwch o ddisgyblion difreintiedig yn cyflawni’n well nag ysgolion eraill.

Maen nhw’n sicrhau hyn trwy ddarparu cryn dipyn o werth ychwanegol, gan sicrhau cynnydd sylweddol i’r rhan fwyaf o ddysgwyr.

Hefyd, dw i’n awyddus - yn ogystal â’r disgwyliad bod pob ysgol uwchradd yn dangos llwyddiant mewn llythrennedd, rhifedd a gwyddoniaeth - ein bod ni’n caniatáu mwy o ddewisiadau lleol ar ddangosyddion pwnc eraill.

Felly, er ei bod hi’n iawn ein bod ni’n ymrwymo i’r pynciau craidd hyn sy’n sail i fod yn ddinesydd brwd, dylem fod hefyd â system sy’n adlewyrchu’n well gwricwlwm eang yr ysgolion eu hunain o fewn eu cyd-destun lleol.

Addysg Uwch

Gan droi at addysg uwch, byddwn hefyd yn cyflwyno’r modd y gall Cymru arwain y ffordd o ran sut rydyn ni’n mesur system a pherfformiad darparwyr.

Dw i’n awyddus ein bod ni’n cydnabod bod ein sefydliadau – er mor wych ydyn nhw – yn llywio ffyniant, gwybodaeth ac effaith sifig mewn ffyrdd gwahanol.

Felly, ar draws cyfres o barthau lefel uchel, dylem fod yn gallu mesur y cyfraniadau cyfartal ond gwahanol hynny.

Mae’r rhain yn debygol o gynnwys mynediad cyfartal a gwerth ychwanegol i’r dysgwr, ond hefyd yr effaith economaidd ac ymchwil ac arloesi.

Byddwn yn symud hyn ymlaen mewn cydweithrediad â’n hymateb i’r ymgynghoriad technegol, ar ôl i Adolygiad Weingarten ddod i ben.

Mae ein sector addysg uwch yn dechrau arwain y ffordd o ran cyflawni ei gyfrifoldebau sifig, yn enwedig ar waith teg a chyflogau teg.

Mae hefyd yn cyflawni o ran rhagoriaeth ymchwil, cysylltiadau rhyngwladol a’r profiad gorau posib i fyfyrwyr.

Felly, er bod gwahaniaeth clir rhwng addysgu ac ymchwil yn rhan hanfodol o bolisi a strwythurau cyllid Lloegr bellach, byddwn yn parhau â manteision cysylltiadau cenedlaethol a sefydliadol rhwng ymchwil, arloesi ac addysgu.

Mae cysylltu addysgu ac ymchwil ag anghenion a chyfleoedd cymdeithasol, fel y nodwyd gan yr Athro John Goddard – arbenigwr ar genhadaeth sifig prifysgolion – yn hollbwysig i sector modern a ffyniannus.

Roeddwn i’n falch – gyda chytundeb trawslywodraethol – i fwrw ymlaen ag argymhellion Diamond o ddiogelu cyllid QR – ffynhonnell incwm hanfodol sy’n cefnogi effaith, enw da a pherfformiad cyffredinol ein sefydliadau.

Mae hyn, wrth reswm, yn cael ei reoli gan CCAUC hyd nes y daw’r Comisiwn newydd i rym.

Ond wedyn, byddwn yn disgwyl gweld cydlyniant cenedlaethol sydd hyd yn oed yn fwy deinamig a strategol, wedi’i gryfhau ymhellach gan argymhellion Adolygiad Reid sydd i’w gyhoeddi.

Rwy’n cydnabod oherwydd Brexit a’r newidiadau i’r maes ymchwil yn Lloegr a’r DU, y bydd angen i ni gydweithio fel sector i ennill brwydrau newydd a dadlau’r achos dros gyllid o ffynonellau newydd.

Dros amser, gallaf weld sefyllfa lle gall colegau addysg bellach fod yn rhan o’r darlun hwn hefyd ac elwa ar gyllid arloesol a all fod ar gael yn y dyfodol.

Rwy’n  sôn am hyn er mwyn pwysleisio, er y bydd angen i ni gydnabod cenadaethau a chryfderau gwahanol yn well, y gall pob un a phob sefydliad gyfrannu at fwy o ymchwil ac arloesi.

Casgliad

Wrth gloi, gobeithio fy mod i wedi gallu esbonio sut rydym ni’n cymryd camau i godi safonau i bawb a lleihau’r bwlch cyrhaeddiad o fewn system addysg gwasanaeth cyhoeddus ragorol sy’n destun balchder cenedlaethol.

Mae ein cyd-ymrwymiad i system addysg sy’n gweithio i bawb, ym mhob man, yn golygu bod rhaid inni ddal ati i weithio’n galetach i gefnogi’r rhai dan yr anfantais fwyaf.

Trwy dargedu adnoddau, mesurau atebolrwydd mwy deallus, pwyslais ar arweiniad a gosod disgwyliadau uchel i bawb, rydym ar fin profi bod system fodern a chyfartal yn gallu cyflawni dros bawb.

Mae pob athro, ysgol, coleg a phrifysgol yn cyfrannu at y genhadaeth genedlaethol hon.

Cenhadaeth â nod cenedlaethol clir, ond un sy’n grymuso athrawon, penaethiaid a sefydliadau i gydnabod eu cyd-destun lleol eu hunain a chynnydd pob dysgwr.

Ni ddylai cefndir unrhyw un benderfynu ar ei ddyfodol.

Rydym yn rhannu disgwyliadau uchel ar gyfer pob myfyriwr, ysgol a’n system ni.

Gallwn brofi bod cydraddoldeb a rhagoriaeth yn mynd law yn llaw.

Gyda’n gilydd, rydym yn cyflawni un o’r diwygiadau addysg mwyaf cyffrous ac uchelgeisiol unrhyw le yn y byd.

Diolch yn fawr.

Helpwch ni i wella'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol »

Defnyddiwch y ffurflen isod i anfon sylwadau atom ynghylch y safle hwn neu i gael rhagor o wybodaeth am y fersiwn beta hon »

Canslo
Angen dweud mwy? Defnyddiwch y prif ffurflen gysylltu raquo;
Diolch, mae eich adborth wedi'i gyflwyno.
Mae hon yn wefan Beta.
Am ragor o wybodaeth »